Cwynodd Mr A fod yr uned gwaredu gwastraff yn ei eiddo yn chwydu dŵr budr. Dywedodd Mr A fod Cyngor Caerdydd wedi anfon pobl i ddatrys y mater ar sawl achlysur ond bod y mater yn dal i ddychwelyd.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi cael nifer fawr o alwadau yn nodi’r broblem, o’r bloc fflatiau preswyl lle mae Mr A yn byw. Roedd y Cyngor wedi cydnabod bod y broblem yn cael ei hachosi’n bennaf gan rwystrau ym mhibell garthion a phibell awyr yr adeilad, a dywedodd y byddai angen eu newid yn y dyfodol. Dywedodd y Cyngor fod y broblem yn cael ei gwaethygu gan fod preswylwyr yn gwaredu gwastraff yn anghywir.
Ceisiodd, a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor y byddai, o fewn 1 mis, yn rhoi arweiniad i’r holl breswylwyr ar waredu gwastraff, ac o fewn 3 mis, byddai’n cwblhau arolwg o’r bibell garthion a’r bibell awyr yr effeithir arnynt, ac yn ystyried y camau nesaf yn dibynnu ar ganlyniad yr arolwg.