Cwynodd Ms Q ei bod wedi bod heb gyflenwad nwy i’w heiddo ers iddi symud i mewn, ym mis Gorffennaf 2024. Yn ogystal, cwynodd Ms Q nad oedd Cyngor Caerdydd (“y Cyngor”) yn ymateb i’w cheisiadau am wasanaeth i drwsio’r cyflenwad nwy.
Canfu’r Ombwdsmon fod Ms Q wedi codi nifer o gwynion i’r Cyngor, a bod oedi y gellid ei osgoi wrth ddelio â’i chais am wasanaeth.
Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad ar y sail y bydd y Cyngor, o fewn 1 mis o gyhoeddi’r llythyr penderfyniad, yn:
1. Gwneud taliad o £300 am yr oedi wrth ymateb i’r cais am wasanaeth.
2. Diddymu rhent Ms Q am gyfnod yr amser yr oedd heb gyflenwad nwy i’w heiddo.