Cwynodd Miss A fod ei heiddo Cyngor mewn cyflwr gwael. Dywedodd Miss A ei bod wedi rhoi gwybod i’r Cyngor am hyn, ond naill ai nad oedd y gwaith atgyweirio wedi’i wneud o gwbl neu nad oedd wedi’i gwblhau i safon resymol. Cwynodd Miss A hefyd nad oedd y Cyngor wedi ymateb i’w chŵyn ffurfiol.
Penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd y Cyngor wedi cwblhau’r gwaith atgyweirio ar eiddo Miss A, ac nad oedd wedi ymateb i’w chŵyn ffurfiol. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd, a chafodd, yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ymddiheuro i Miss A, cyhoeddi ymateb i’w chŵyn, a rhoi diweddariad ysgrifenedig iddi yn nodi’r gwaith atgyweirio sydd i’w wneud a’r amserlen ar gyfer ei gwblhau. Cytunodd y Cyngor i gwblhau’r camau hyn o fewn 4 wythnos i benderfyniad yr Ombwdsmon.