Dyddiad yr Adroddiad

26/03/2025

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Atgyweiriadau a chynnal a chadw (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau ac addasiadau e.e. gwres canolog. gwydr dwbl)

Cyfeirnod Achos

202409311

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss A fod Cyngor Caerdydd wedi methu trwsio gollyngiad yn y beipen dŵr glaw, sy’n mynd drwy ystafell amlbwrpas ei heiddo.

Nododd yr Ombwdsmon fod y Cyngor wedi archwilio’r eiddo i ganfod achos y nam, ond nad oedd wedi archwilio’r ystafell yr effeithiwyd arni, a bod y nam heb ei ddatrys. Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor, ers i Miss A wneud ei chwyn, wedi trefnu bod plymwr yn dod i’r eiddo i drwsio’r beipen ddŵr a oedd yn gollwng. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd, a chafodd, yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor y byddai, o fewn mis, yn darparu ymateb ysgrifenedig i gŵyn ddiweddar Miss A, ac yn cynnig £70 i Miss A am yr amser a’r drafferth a achoswyd wrth fynd ar drywydd y gŵyn a’r gwaith atgyweirio.