Dyddiad yr Adroddiad

09/10/2024

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Caerfyrddin

Pwnc

Atgyweiriadau a chynnal a chadw (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau ac addasiadau e.e. gwres canolog. gwydr dwbl)

Cyfeirnod Achos

202402931

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss A nad oedd Cyngor Sir Gâr wedi gwneud gwaith atgyweirio i’w chartref, y cytunwyd arno’n flaenorol.

Canfu’r Ombwdsmon y bu rhywfaint o oedi gan y Cyngor wrth wneud y gwaith atgyweirio y cytunwyd arno. Ar ben hynny, roedd y Cyngor wedi newid ei safbwynt mewn perthynas â ffensio’r ardd. Roedd methiant y Cyngor i gyflawni gwaith y cytunwyd arno yn brydlon wedi peri anhwylustod i Miss A.

Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd, a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i, o fewn 4 wythnos, roi ymddiheuriad i Miss A am yr oedi cyn gwneud y gwaith atgyweirio y cytunwyd arno, esboniad ynghylch pam nad yw’r Cyngor yn fodlon ymgymryd â’r gwaith ffensio y cytunwyd arno’n flaenorol, ac amserlen ar gyfer pryd y bydd y gwaith sy’n weddill yn cael ei gwblhau.