Dyddiad yr Adroddiad

04/30/2024

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Penfro

Pwnc

Atgyweiriadau a chynnal a chadw (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau ac addasiadau e.e. gwres canolog. gwydr dwbl)

Cyfeirnod Achos

202308823

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A nad oedd Cyngor Sir Penfro wedi datrys y problemau yr oedd wedi rhoi gwybod amdanynt yn ymwneud â draeniau allanol, a llwydni y tu mewn i’w eiddo.

Dywedodd Mr A ei fod wedi rhoi gwybod am y problemau am y tro cyntaf yn 2020. Canfu’r Ombwdsmon fod tystiolaeth bod y Cyngor wedi ymateb i’r materion yn ddiweddar, ond nid oeddent wedi’u datrys. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ymateb i gŵyn Mr A o fewn 10 diwrnod gwaith. Dylai gynnwys amserlen ar gyfer bwrw ymlaen a chwblhau’r gwaith a’r atgyweiriadau sydd ar ôl yn ymwneud â’r draeniau a’r llwydni.