Cwynodd Ms A am damprwydd a llwydni yn ei heiddo sy’n cael ei rentu gan Gyngor Sir y Fflint. Dywedodd er ei bod wedi cwyno i’r Cyngor yn Nhachwedd 2023, ei fod wedi gwrthod uwchgyfeirio ei chŵyn a wnaed yn Ionawr 2024 i gŵyn Cam 2 y weithdrefn gwyno ond wedi ei chofnodi fel cwyn Cam 1 newydd.
Penderfynodd yr Ombwdsmon fod y Cyngor wedi methu ag ymateb yn ffurfiol i’r gŵyn a wnaed gan Ms A yn Nhachwedd 2023 ac felly wedi trin ei chŵyn fwy diweddar o dan Gam 1 y weithdrefn gwyno. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb gynnal ymchwiliad.
Gofynnodd yr Ombwdsmon a chytunodd y Cyngor i gysylltu â Ms A o fewn 10 diwrnod gwaith i gadarnhau a oedd yn dal i fod eisiau uwchgyfeirio ei chŵyn i Gam 2 y weithdrefn gwyno ac, os oedd, i gytuno ar sgôp y gŵyn. O fewn 10 diwrnod pellach, y dylai roi ymateb i’r gŵyn Cam 2 ac ymddiheuro nad oedd wedi ymateb yn ffurfiol i’r gŵyn flaenorol.