Cwynodd Miss C ynglŷn â’r ffaith bod Coastal Housing Group Ltd (“CHG”) wedi dod i’w heiddo ar 3 achlysur i asesu’r lleithder a’r llwydni, ond nad oedd yr archwiliadau’n rhai annibynnol, ac nad oeddent wedi asesu’r tu allan i’r eiddo lle’r oedd tystiolaeth o lwydni. Dywedodd Miss C ei bod wedi cael ei gadael mewn eiddo a oedd yn peryglu ei hiechyd meddyliol a chorfforol.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd yr archwiliadau a gynhaliwyd gan CHG yn rhai annibynnol, ac fe ddaeth i’r casgliad mai diffyg awyru yn eiddo Miss C a oedd yn achosi’r lleithder. Nid oedd unrhyw dystiolaeth i ddangos bod archwiliad allanol wedi digwydd.
Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb CHG i fynd ati o fewn 28 diwrnod i gynnal archwiliad annibynnol llawn o eiddo Miss C, cofnodi darlleniadau lleithder, gyda’r nod o ganfod beth sy’n achosi’r lleithder. Cytunodd ymhellach, o fewn 10 diwrnod gwaith i’r archwiliad, i rannu canfyddiadau’r archwiliad â Miss C ynghyd â chynllun gwaith arfaethedig i fynd i’r afael ag achos y lleithder, yn ôl y gofyn.