Dyddiad yr Adroddiad

04/03/2024

Achos yn Erbyn

Pobl

Pwnc

Atgyweiriadau a chynnal a chadw (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau ac addasiadau e.e. gwres canolog. gwydr dwbl)

Cyfeirnod Achos

202309754

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr E nad oedd Pobl wedi ymateb i gŵyn a wnaeth ym mis Chwefror 2024 mewn perthynas â drws patio diffygiol a oedd wedi disgyn oddi ar ei golfachau.

Canfu’r Ombwdsmon y bu oedi cyn ymchwilio i’r gŵyn ac ymateb yn sgil camgymeriad wrth ei neilltuo’n fewnol. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd ychwanegol i Mr E. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Cytunodd yr Ombwdsmon â’r Gymdeithas y byddai’n ysgrifennu at Mr E o fewn wythnos i gydnabod ac esbonio ei chamgymeriad. Talu £25 i Mr E am ei amser a’i drafferth. Cadarnhaodd y Gymdeithas hefyd y byddai’n galw draw ac yn trwsio’r drws o fewn wythnos.