Dyddiad yr Adroddiad

29/11/2024

Achos yn Erbyn

Pobl

Pwnc

Atgyweiriadau a chynnal a chadw (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau ac addasiadau e.e. gwres canolog. gwydr dwbl)

Cyfeirnod Achos

202406349

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A fod Pobl wedi methu â chymryd camau amserol i drwsio neu newid biniau sydd wedi torri yn y man storio biniau cymunedol, a oedd wedi arwain at bla o lygod ffyrnig dilynol yng nghartref Ms A.
Penderfynodd yr Ombwdsmon y bu oedi sylweddol cyn cwblhau’r gwaith atgyweirio ac nad oedd y Gymdeithas Dai wedi darparu ymateb ffurfiol i gŵyn Ms A, gan wneud iddi deimlo’n ansicr a fyddai unrhyw gamau pellach yn cael eu cwblhau, neu bryd. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd, a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Gymdeithas Dai i gyhoeddi ymateb llawn i gŵyn Ms A o fewn pythefnos, gan gadarnhau’r dyddiad y byddai’r gwaith atgyweirio’n cael ei gwblhau.