Cwynodd Miss X nad oedd Tai Cymoedd i’r Arfordir wedi ymateb i’w chŵyn a wnaeth ym mis Mawrth 2024, am broblemau draenio yn ei gardd.
Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Gymdeithas wedi cymryd camau i ymchwilio i’r pryderon, nad oedd wedi ymateb i’r gŵyn yn unol â’i phroses gwyno. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi ansicrwydd, rhwystredigaeth ac anghyfleustra i Miss X. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Gymdeithas i ymddiheuro ac i roi esboniad am yr oedi ac i ymateb yn ffurfiol i’r gŵyn o fewn pythefnos.