Cwynodd Ms A fod ganddi nifer o broblemau gyda’i heiddo lesddaliad, gan gynnwys lleithder a llwydni. Dywedodd ei bod wedi dod yn ymwybodol o’r mater hwn am y tro cyntaf yn 2019. Roedd hi’n anfodlon â’r ffordd yr oedd Tai Cymunedol Bron Afon Cyf (“y Gymdeithas Dai”) wedi delio â’i chŵyn a’i hymateb i’r amrywiol bryderon a godwyd ganddi.
Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus, er bod y Gymdeithas Dai wedi cadarnhau cwynion ynghylch y mater hwn ym mis Rhagfyr 2022 a mis Ionawr 2024, ei bod yn ymddangos bod y prif fater o leithder a llwydni yn dal heb ei ddatrys.
Yn hytrach nag ymchwilio i’r gŵyn, fe wnaeth yr Ombwdsmon geisio a chael cytundeb y Gymdeithas Tai i ymddiheuro i Ms A am y ffordd yr ymdriniwyd â’r mater hwn a’r oedi cyn datrys ei phryderon ynghylch lleithder a llwydni. Cytunodd y Gymdeithas Dai hefyd i ystyried iawndal ariannol priodol am golled amlwg i Ms A oherwydd y lleithder a’r llwydni nad yw wedi’i ddatrys. Yn olaf, cytunodd i ymgymryd â chyfres gynhwysfawr o waith a ddylai ddatrys y materion sy’n peri pryder.