Dyddiad yr Adroddiad

12/07/2024

Achos yn Erbyn

Trivallis

Pwnc

Atgyweiriadau a chynnal a chadw (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau ac addasiadau e.e. gwres canolog. gwydr dwbl)

Cyfeirnod Achos

202401084

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A am yr amser yr oedd Cymdeithas Tai Trivallis wedi’i gymryd i gwblhau atgyweiriadau i’w eiddo a’i fod yn parhau i fod heb amserlen ar gyfer gosod cegin newydd.

Penderfynodd yr Ombwdsmon er bod y Gymdeithas Dai wedi cymryd camau i gwblhau’r atgyweiriadau, roedd Mr A yn dal i aros am ddyddiad i adnewyddu’r gegin o dan waith a gynlluniwyd. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Gymdeithas Dai i ddiweddaru Mr A bob 3 mis i roi gwybod iddo am yr amserlen debygol ar gyfer y gwaith.