Cwynodd Miss A fod Trivallis (“y Gymdeithas Dai”) wedi methu ag adnewyddu ei hinswleiddiad yn yr atig yn dilyn pla o lygod mawr. Manylodd Miss A ar yr effaith iechyd meddwl yr oedd hyn yn ei chael arni.
Yn dilyn adolygiad pellach o gŵyn Miss A, ar ôl nodi rhai methiannau yn ei phroses ymchwilio, cytunodd y Gymdeithas Dai i dynnu ac adnewyddu insiwleiddiad llofft Miss A a thalu iawndal o £100 iddi fel cydnabyddiaeth o fethiant y gwasanaeth. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod y camau a gymerwyd gan y Gymdeithas Dai yn rhesymol a chafodd y mater ei setlo.