Cwynodd Mrs C am y gofal a’r driniaeth a gafodd ei diweddar fam, Mrs B, gan gartref gofal (“y Cartref Gofal”), yn ardal Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.
Ystyriodd yr ymchwiliad a oedd y gofal nyrsio a’r driniaeth a gafodd Mrs B yn y Cartref Gofal o safon briodol yn ystod y pythefnos cyn iddi farw yn anffodus ar 21 Mawrth 2023. Dywedodd Mrs C nad oedd pryderon ynghylch dadhydradu Mrs B wedi’u rheoli’n briodol ac na chysylltodd y Cartref Gofal â’r meddyg teulu yn ddigon buan i gael ailasesiad mwy amserol o’i meddyginiaeth ddiwretig (sy’n cynyddu faint o wrin a gynhyrchir).
Canfu’r Ombwdsmon fod y gofal nyrsio a’r driniaeth a gafodd Mrs B yn y Cartref Gofal rhwng 7 a 21 Mawrth 2023 o safon dderbyniol a bod pryderon wedi’u trafod yn briodol gyda’r meddyg teulu. Ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon y gŵyn hon.