Cwynodd Mrs X fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi methu â chasglu ei gwastraff a’i hailgylchu dro ar ôl tro. Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Cyngor wedi darparu’r wybodaeth gywir i Mrs X. Canfu’r Ombwdsmon fod y diffyg gwybodaeth gywir wedi cyfrannu at fethiant i gasglu biniau Mrs X am gyfnodau hir. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hynny wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mrs X a phenderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd, a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i wneud y canlynol o fewn 1 mis:
Ymddiheuro i Mrs X am y casgliadau a gollwyd a’r wybodaeth anghywir a roddwyd iddi.
Cynnig iawndal o £150 i Mrs X am yr anhwylustod a achoswyd.
Rhoi gwybod i’r staff casglu sbwriel sy’n rhan o’r gwaith o gasglu gwastraff ac ailgylchu Mrs X y dylid casglu ei biniau yn unol â’r wybodaeth a ddarperir ar wefan y Cyngor o hyn ymlaen.