Dyddiad yr Adroddiad

27/02/2025

Achos yn Erbyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Pwnc

Casgliad ysbwriel. Gwaredu gwastraff ac ailgylchu

Cyfeirnod Achos

202408236

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss B fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi methu ag ymateb i gŵyn yn ymwneud â methiant i gasglu sbwriel/ailgylchu sawl gwaith.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi methu ag esbonio i Miss B ei fod yn delio â’i chŵyn fel cais am wasanaeth. Roedd hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac anghyfleustra ychwanegol i Miss B. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ysgrifennu at Miss B i ymddiheuro, i gofnodi cwyn ac i ymateb yn ffurfiol o fewn 4 wythnos.