Dyddiad yr Adroddiad

04/07/2024

Achos yn Erbyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Pwnc

Casgliad ysbwriel. Gwaredu gwastraff ac ailgylchu

Cyfeirnod Achos

202402792

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi methu â dosbarthu bagiau bin i’w eiddo.

Canfu’r Ombwdsmon fod Mr A wedi cwyno i’r Cyngor 5 wythnos cyn mynd at ei swyddfa ac nad oedd y Cyngor wedi gweithredu ar ei negeseuon e-bost yn cwyno. Dywedodd yr Ombwdsmon fod yr oedi wedi achosi rhwystredigaeth i Mr A a phenderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad ffurfiol.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ddosbarthu bagiau bin i Mr A o fewn 2 wythnos ac i anfon ymateb i gŵyn Cam 2 iddo o fewn 4 wythnos.