Dyddiad yr Adroddiad

30/08/2024

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Casgliad ysbwriel. Gwaredu gwastraff ac ailgylchu

Cyfeirnod Achos

202402662

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A, yn dilyn system newydd ar gyfer casglu sbwriel yn ei ardal, fod casgliadau sbwriel wedi cael eu methu.  Pan godwyd cwyn am y mater hwn gyda Chyngor Caerdydd, sy’n gyfrifol am y casgliadau, bu oedi o ran yr ymateb a dderbyniwyd. Gofynnwyd am gael uwchgyfeirio’r mater ymhellach yn dilyn yr ymateb am fod Mr A yn cael problemau parhaus gyda’r casgliadau sbwriel ac nad oedd yr ymateb yn mynd i’r afael â’r pryderon hyn.

Roedd yr Ombwdsmon o’r farn nad oedd Mr A wedi cael ymateb llawn i’w gŵyn a chysylltodd â’r Cyngor. Cytunodd y Cyngor i roi’r camau canlynol ar waith er mwyn datrys y gŵyn ac fel dewis arall yn lle ymchwiliad ffurfiol:

· Darparu ymateb pellach yn dilyn y cais uwchgyfeirio o fewn pythefnos. Dylai hyn roi manylion i’r achwynydd am y camau sy’n cael eu cymryd i fynd i’r afael â’r pryderon.