Dyddiad yr Adroddiad

02/07/2021

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Casgliad ysbwriel. Gwaredu gwastraff ac ailgylchu

Cyfeirnod Achos

202101572

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X fod y Cyngor wedi methu â chasglu ei wastraff dro ar ôl tro ac er iddo gwyno nifer o weithiau dros y blynyddoedd roedd y diffyg casglu yn dal i ddigwydd.

Cydnabu’r Cyngor ei fod wedi methu dro ar ôl tro a chytunodd i wneud y canlynol er mwyn setlo cwyn Mr X:

1. Darparu ymddiheuriad ysgrifenedig ffurfiol i Mr X.

2. Iawn ariannol i Mr X yn y swm o £75, i gydnabod yr amser a’r drafferth yr oedd cwyno dro ar ôl tro am y mater hwn wedi’i olygu iddo.

3. Ymrwymiad i fonitro/archwilio cydymffurfiad â’i wasanaeth casglu am y 4 mis nesaf.

4. Os caiff casgliadau eu methu eto, bydd galwad ffôn yn cael ei rhoi i Mr X i ymddiheuro ac i gadarnhau y caiff hynny ei gywiro o fewn 48 awr.

Roedd yr Ombwdsmon o’r farn fod hyn yn setliad priodol.