Cwynodd Ms P fod Cyngor Bro Morgannwg wedi methu â phrosesu ei chais digartrefedd yn deg ac amserol ac nad oedd wedi ystyried ei hanghenion nac anghenion ei phlant anabl. Cwynodd hefyd fod problemau gyda’i llety dros dro oherwydd nad oedd yn addas i’w phlant, bod angen ei lanhau’n broffesiynol ac nad oedd ffob allweddi wedi’i roi iddi am y pythefnos cyntaf. Roedd Ms P wedi gwneud cwyn ffurfiol a derbyn ymateb ond ni dderbyniodd unrhyw ohebiaeth bellach er iddi e-bostio’r Cyngor eto ar 26 Awst 2023.
Casglodd yr Ombwdsmon, ers e-bost Ms P, fod pethau wedi symud ymlaen; roedd rhai o’r pryderon a gododd gyda’r Ombwdsmon, a pheth o gynnwys yr e-bost dyddiedig 26 Awst, hefyd wedi codi materion nad oedd y Cyngor wedi eu hystyried na rhoi sylw iddynt. Roedd y Cyngor wedi methu â chydnabod e-bost 26 Awst Ms P, oedd yn codi materion oedd angen ymateb pellach o sylwedd iddynt. Dywedodd Ms P fod ganddi dystiolaeth i ddangos nad hi oedd yn gyfrifol am yr oedi cychwynnol yn symud ei chais yn ei flaen ac nad oedd wedi cael ymateb i’w cheisiadau am gyfathrebu. Roedd y Cyngor wedi methu â gofyn am nac adolygu’r dystiolaeth ychwanegol yma ac er ei fod wedi cydnabod y gallai fod wedi cyfathrebu’n well â Ms P, gallai fod wedi gwneud mwy i ddelio’n uniongyrchol â’r effaith ar Ms P a’i phlant ifanc.
Cytunodd y Cyngor i ymddiheuro am fethu â chydnabod na rhoi sylw i e-bost Ms P, i gysylltu â Ms P i gasglu’r dystiolaeth ychwanegol yr oedd eisiau ei chyflwyno, ac i roi ymateb pellach i ddelio â’r materion oedd heb gael sylw. Cytunodd i gwblhau’r camau hyn o fewn 6 wythnos.