Cwynodd Mr X fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi methu ag ymateb i’w holl bryderon yn yr ymateb i’w gŵyn.
Er bod y Cyngor wedi ymateb i Mr X, canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Cyngor wedi rhoi sylw i’r materion eraill a gododd Mr X yn ei gŵyn. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi ansicrwydd, rhwystredigaeth ac anghyfleustra i Mr X. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ysgrifennu at Mr X i ymddiheuro ac i esbonio am y diffyg sylw, ac i ymateb eto i’r gŵyn gan roi sylw i’r pryderon a oedd heb eu hystyried, a hynny o fewn pythefnos.