Cwynodd Mrs A fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (“y Bwrdd Iechyd”) wedi methu â rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf iddi nac ymateb i’w hail gŵyn am ofal a thriniaeth ei diweddar ferch. Nododd, 16 mis ar ôl iddi gyflwyno’r gŵyn, bod y Bwrdd Iechyd wedi dweud nad oedd yn gallu ymateb i’w phryderon oherwydd bod cofnodion meddygol ei merch ar goll.
Penderfynodd yr Ombwdsmon fod y cofnodion meddygol coll wedi arwain at golli cyfle i Mrs A gael ymchwiliad annibynnol i ofal a thriniaeth ei merch. Dywedodd fod hynny wedi achosi anghyfiawnder parhaol i Mrs A. Penderfynodd yr Ombwdsmon hefyd fod y ffordd yr oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymdrin â’r cwynion wedi achosi oedi a rhwystredigaeth i Mrs A. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd, a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Mrs A am y cofnodion coll a chynnig taliad iawndal o £1,250 am golli cyfle i ystyried ei chŵyn. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i egluro pryd yn union y darganfu fod y cofnodion ar goll, cymryd camau priodol i leihau’r risg o golli cofnodion yn y dyfodol, a pharhau i chwilio am y cofnodion. Cytunodd hefyd i ymddiheuro i Mrs A am y materion a godwyd wrth ddelio â chwynion a chynnig iawndal o £250 iddi am yr amser a’r drafferth a gymerwyd. Yn olaf, cytunodd i ymateb i agweddau ar y gŵyn nad oeddent yn dibynnu ar y cofnodion coll, a chwblhau’r holl gamau gweithredu y cytunwyd arnynt o fewn 6 wythnos.