Dyddiad yr Adroddiad

05/07/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

COVID

Cyfeirnod Achos

202304628

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mrs A am driniaeth ysbyty a ddarparwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i’w thad, Mr B, rhwng Chwefror ac Ebrill 2020. Ystyriodd ymchwiliad yr Ombwdsmon y cwestiynau canlynol:

  1. A roddwyd mesurau rheoli heintiau priodol ar waith i amddiffyn Mr B rhag dal COVID-19?
  2. A oedd y penderfyniad i ryddhau Mr B o Ysbyty Brenhinol Gwent (“yr Ysbyty”) yn briodol?
  3. A gynhaliwyd Adolygiad Nosocomial (a gaffaelwyd mewn ysbyty) COVID-19 y Bwrdd Iechyd yn briodol?

Canfu’r ymchwiliad fod y mesurau atal a rheoli heintiau (“IP&C”) a oedd ar waith cyn i Mr B ddal COVID-19 yn cyd-fynd ag arfer disgwyliedig a chanllawiau perthnasol. Ni chadarnhawyd y gŵyn hon. Canfu’r ymchwiliad nad oedd y penderfyniad i ryddhau Mr B o’r Ysbyty yn briodol oherwydd y methwyd â chynnal asesiad llawn o’i lefelau dryswch. Cadarnhawyd y gŵyn hon. Yn olaf, canfu’r ymchwiliad fod Adolygiad Nosocomaidd y Bwrdd Iechyd wedi’i gynnal i safon resymol. Ni chadarnhawyd y gŵyn hon.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd ag argymhelliad yr Ombwdsmon y dylai ymddiheuro i Mrs A am fethu â chynnal asesiad priodol o lefelau dryswch Mr B. Cytunodd hefyd i atgoffa staff meddygol perthnasol yn yr Ysbyty o bwysigrwydd sicrhau bod cleifion sy’n dangos arwyddion o ddeliriwm yn cael eu hasesu’n briodol cyn eu rhyddhau.