Cwynodd Mr A nad oedd wedi cael gwybod am ei brawf COVID-19 positif nac wedi cael cyngor rhyddhau priodol am hunanynysu.
Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (“y Bwrdd Iechyd”) yn gallu dangos yn foddhaol a oedd Mr A wedi cael gwybod am y prawf positif neu wedi cael gwybodaeth a chyngor am y cyfnod hunanynysu, yn unol â pholisi ei ward ar y pryd.
Gofynnodd i’r Bwrdd Iechyd gytuno i sicrhau ei fod yn ymddiheuro i Mr A o fewn mis, ac yn talu £750 iddo i gydnabod y methiannau hyn. Cafodd y cam hwn ei dderbyn fel dewis arall yn lle ymchwiliad.