Cwynodd Mr A na roddodd Bwrdd Iechyd wedi rhoi ystyriaeth briodol i achos ei fam fel rhan o’i broses adolygu nosocomiaidd (proses a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i Fyrddau Iechyd adolygu achosion lle gallai claf fod wedi dal Covid-19 yn yr ysbyty) ac yn unol â’r Fframwaith Cenedlaethol ac unrhyw bolisïau/gweithdrefnau perthnasol.
Canfu’r ymchwiliad, er bod yr adolygiad a gynhaliwyd gan y Bwrdd Iechyd i’r gofal a roddwyd i fam yr achwynwr wedi dod i’r casgliad bod y gofal wedi bod yn rhesymol, nid oedd yr esboniad o sut y gwnaed y penderfyniad hwnnw yn ddigon manwl. Hefyd ni roddwyd esboniad i’r penderfyniad nad oedd unrhyw dordyletswydd ac nad oedd unrhyw atebolrwydd cymwys.
Roedd y Bwrdd Iechyd wedi gwneud penderfyniad i ddiwygio cynnwys llythyrau penderfynu er mwyn gwella’r ffordd mae’n cyfathrebu’r materion allweddol, yn sgil materion a godwyd gan yr Ombwdsmon. Fodd bynnag, o ystyried amseriad y gŵyn hon, nid oedd y gwelliant hwn wedi cael effaith ar achos yr achwynwr.
Felly, daeth yr Ombwdsmon i gytundeb gyda’r Bwrdd Iechyd i gynnal adolygiad nosocomiaidd newydd, trylwyr, i gynnwys ystyriaeth o faterion nosocomiaidd, dyletswydd gofal ac atebolrwydd cymwys. Ar ôl cwblhau hyn, cytunodd y Bwrdd Iechyd i ysgrifennu at yr achwynydd i roi esboniad llawn o’r rhesymau dros ei benderfyniad o fewn 6 wythnos i gau’r gŵyn.