Dyddiad yr Adroddiad

26/10/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

COVID

Cyfeirnod Achos

202203313

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs G nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymchwilio’n ddigonol i’w chŵyn ynghylch sut roedd ei diweddar dad, Mr S, wedi dal COVID-19 cyn ei farwolaeth yn Ysbyty Maelor Wrecsam ym mis Awst 2020.
O dan y broses gwyno Gweithio i Wella, roedd yn ofynnol i’r Bwrdd Iechyd egluro p’un ai a oedd wedi torri ei ddyletswydd gofal tuag at Mr S ac, os felly, a oedd hyn wedi achosi unrhyw niwed iddo. Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus bod y Bwrdd Iechyd, wrth ymateb i gŵyn Mrs G, wedi methu egluro pam nad oedd wedi canfod atebolrwydd cymwys yng nghyswllt ei phryderon.
Cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Bwrdd Iechyd ynghylch y pryder hwn. Er mwyn datrys y gŵyn, cytunodd y Bwrdd Iechyd i gymryd y camau canlynol o fewn 3 mis:
• Ailystyried canlyniad yr ymchwiliad i bryder Mrs G ynghylch sut y daliodd Mr S COVID-19.
• Ail-anfon llythyr ymateb newydd at Mrs G dan y broses Gweithio i Wella, gan gynnwys esboniad llawn o’r penderfyniad ar atebolrwydd cymwys.