Dyddiad yr Adroddiad

06/08/2024

Achos yn Erbyn

Cyngor Bro Morgannwg

Pwnc

Cyfathrebu gwael/ Dim cyfathrebu neu fethiant i ddarparu gwybodaeth

Cyfeirnod Achos

202401785

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Roedd Ms A hefyd yn cwyno am sut roedd y Cyngor wedi ymdrin â’i chŵyn. Dywedodd nad oedd person priodol wedi ymdrin â’i chŵyn Cam 2 i’r Cyngor gan fod y Swyddog dan sylw wedi bod yn ymwneud yn uniongyrchol â thestun y gŵyn. Cododd Ms A faterion eraill hefyd o ran y ffordd yr aeth y Cyngor ati i ymdrin â’i chŵyn, gan gynnwys y cyfathrebu a’r oedi. Amlinellodd yn fanwl ei sefyllfa anodd o ganlyniad i gamau gweithredu/diffyg gweithredu’r Cyngor.

Canfu’r Ombwdsmon fod ymchwiliad Cam 2 y Cyngor yn is na’r safon a ddisgwylid gan gorff cyhoeddus. Nid oedd yn glynu wrth ganllawiau’r Ombwdsmon ar Egwyddorion Gweinyddu Da, yn enwedig mewn perthynas â thegwch, didueddrwydd ac annibyniaeth. Cytunodd y Cyngor i gynnal ymchwiliad cam 2 newydd a chyfarfod â Ms A i gytuno ar y materion y dylid eu hystyried. Cytunodd y Cyngor hefyd i gynnwys y modd yr aeth ati i ymdrin â’r ymchwiliad Cam 2 blaenorol fel rhan o’r ymchwiliad newydd.