Cwynodd Mr B nad oedd Cyngor Caerdydd wedi atgyweirio’r llwybr fel yr addawyd ac o ganlyniad i hyn, daeth y llwybr troed yn beryglus.
Canfu’r Ombwdsmon fod Mr B wedi bod yn codi ei bryderon am gryn amser ac nad oedd y Cyngor wedi mynd i’r afael â’r mater. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ymddiheuro i Mr B am yr amser a gymerwyd i ddelio â’r mater ac egluro pam y digwyddodd hyn. Cytunodd y Cyngor hefyd i drefnu cyfarfod ar y safle gydag Uwch Swyddog Parciau, o fewn tair wythnos, a chynnig iawndal ariannol o £100 i Mr B am yr amser a’r drafferth a gymerwyd i gysylltu â’r Ombwdsmon.