Cwynodd Mr W fod Cyngor Dinas Casnewydd wedi gwrthod derbyn ei gŵyn am gyflwyno ffioedd i breswylwyr ddefnyddio’r domen gymunedol.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi gweithredu’n anghywir wrth wrthod derbyn ei gŵyn. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mr W. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ymddiheuro i Mr W, i dderbyn ei gŵyn ac i gyhoeddi ymateb i’r gŵyn o fewn 3 wythnos.