Cwynodd Miss L nad oedd Cyngor Bro Morgannwg wedi cydnabod bod ganddi hawl i ostyngiad Treth Cyngor. Cwynodd Miss L ymhellach fod y Cyngor wedi methu cyfathrebu’n effeithiol â hi, wedi rhoi gwybodaeth anghywir iddi, ac nad oedd wedi ymateb i’w phryderon a oedd wedi cael eu codi’n barhaus ers 2020.
Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad fod oedi sylweddol wedi bod cyn ymateb i bryderon Miss L a bod manylion cyswllt anghywir wedi’u rhoi iddi. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth a dryswch i Miss L.
Yn lle ymchwiliad, ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ymddiheuro i Miss L am yr oedi ac am roi manylion cyswllt anghywir iddi. Cytunodd hefyd i roi taliad amser a thrafferth o £50 i Miss L, ac i gyhoeddi ymateb manwl i’r gŵyn sy’n esbonio pa wybodaeth sydd ei hangen ar y Cyngor, pa ostyngiadau sydd wedi’u rhoi hyd yma, ac unrhyw falansau sy’n ddyledus. Ar ben hynny, rhoddodd y Cyngor sicrwydd y byddai gwelliannau’n cael eu gwneud i sicrhau bod gan yr holl adrannau perthnasol fanylion cyswllt cyfredol i atal digwyddiadau tebyg eto. Cytunodd y Cyngor y byddai’n gweithredu ar yr uchod o fewn 30 diwrnod gwaith.