Cwynodd Mr A fod ei gŵyn i Gyngor Caerdydd (“y Cyngor”) am ei ymdriniaeth o’i gyfrif treth cyngor wedi cael ei hanwybyddu i raddau helaeth, gyda’r rhan fwyaf o’r pwyntiau heb eu hateb a bod yr ymateb yn cynnwys nifer o gelwyddau. Dywedodd fod y Cyngor wedi methu ag ymddwyn yn broffesiynol a phriodol ac wedi methu â’r rhoi’r wybodaeth a ofynnodd amdani iddo. Dywedodd hefyd y teimlai fod camau’r Cyngor tuag ato ef a’i bartner yn homoffobig.
Casglodd yr Ombwdsmon ei bod yn ymddangos nad oedd y Cyngor wedi ymateb yn llawn i’r holl bwyntiau a godwyd gan Mr A oedd, er hwylustod, wedi eu rhestru mewn e-bost ganddo i’r Cyngor ar 15 Awst 2021. Casglodd fod y pwyntiau oedd heb gael sylw’n gwestiynau a phryderon dilys y dylai’r Cyngor fod wedi ymateb iddynt.
Roedd yr Ombwdsmon wedi gofyn i’r Cyngor a gytunodd i ymateb ymhellach i gŵyn Mr A gan roi sylw i’r pwyntiau eraill a godwyd yn ei e-bost dyddiedig 15 Awst 2021, o fewn 20 diwrnod gwaith.