Cwynodd Mr S fod Cyngor Sir Ynys Môn wedi cyfarwyddo asiant gorfodi i gael taliad ganddo am ei dreth cyngor dyledus. Roedd Mr S wedi cwyno i’r Cyngor am y dull oedd yn cael ei ddefnyddio i gael y taliad, ond nid oedd y Cyngor wedi ymateb.
Penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd y Cyngor wedi gweithredu’n unol â’i weithdrefn gwyno statudol ac nad oedd wedi ymateb i gŵyn Mr S. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth a gofid i Mr S.
Yn hytrach na chynnal ymchwiliad, cytunodd y Cyngor â chais yr Ombwdsmon i ymddiheuro i Mr Myers am yr oedi cyn ymateb a rhoi ymateb ysgrifenedig ffurfiol iddo o fewn 30 diwrnod gwaith.