Dyddiad yr Adroddiad

17/11/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Ceredigion

Pwnc

Cynllunio a Rheoli Adeiladu

Cyfeirnod Achos

202304164

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A fod Cyngor Sir Ceredigion (“y Cyngor”) wedi methu ymateb i’w gŵyn am sut y bu iddo ymdrin â’i gais cynllunio. Dywedodd y Cyngor nad oedd yn gallu ymchwilio i gŵyn Mr A am ei fod yn ymwneud â’r penderfyniad i wrthod ei gais cynllunio ac felly roedd yn dal yn agored iddo apelio.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod y Cyngor wedi diystyru agweddau ar gŵyn Mr A. Roedd wedi penderfynu’n anghywir bod cwyn Mr A i gyd y tu allan i’r drefn gwyno statudol. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i nodi agweddau ar gŵyn Mr A y gellir eu hystyried o dan y broses gwyno statudol, i ymddiheuro i Mr A am yr oedi ac i gytuno i roi ymateb Cam 2 i’r gŵyn, o fewn 5 diwrnod gwaith.