Dyddiad yr Adroddiad

20/08/2024

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Penfro

Pwnc

Cynllunio a Rheoli Adeiladu

Cyfeirnod Achos

202403489

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr a Mrs X nad oedd Cyngor Sir Penfro wedi gorfodi amod cynllunio ar eiddo cyfagos.

Canfu’r Ombwdsmon fod oedi wedi bod cyn i’r Cyngor ymateb i gŵyn Mr a Mrs X, a oedd yn bennaf oherwydd problemau’n dod o hyd i ymchwilydd i gynnal ymchwiliad Cam 2.  Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd ychwanegol i Mr a Mrs X. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ysgrifennu at Mr a Mrs X o fewn pythefnos i roi ymddiheuriad ac esboniad am beidio â rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf iddynt ac am yr oedi cyn penodi ymchwilydd.  Cytunodd y Cyngor hefyd i benodi ymchwilydd o fewn 6 wythnos i gynnal ymchwiliad Cam 2 yn unol â’i weithdrefn gwyno ac, wedi hynny, i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Mr a Mrs X bob mis nes bydd yr ymateb Cam 2 yn cael ei gyhoeddi.