Dyddiad yr Adroddiad

05/05/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir y Fflint

Pwnc

Cynllunio a Rheoli Adeiladu

Cyfeirnod Achos

202107923

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X am Ymateb Cyngor Sir y Fflint (y Cyngor) i Gŵyn Cam 2. Roedd Mr X yn anghytuno â’r penderfyniadau a wnaeth y Cyngor ynglŷn â materion cynllunio a gorfodi. Dywedodd nad oedd yr Ymateb i Gŵyn Cam 2 yn rhoi sylw i’r holl faterion yr oedd wedi cwyno amdanynt ac nad oedd yn hapus ag amseroldeb yr ymateb a oedd yn cael ei darparu i’r gŵyn.

Canfu’r Ombwdsmon na cheid dim tystiolaeth o gamweinyddu o safbwynt y penderfyniadau cynllunio a gorfodi. Fodd bynnag, roedd yr Ombwdsmon yn bryderus bod yr Ymateb Cam 2 yn methu â rhoi sylw i un rhan o gŵyn Mr X.

Yn hytrach na chynnal ymchwiliad, gofynnodd yr Ombwdsmon am gytundeb y Cyngor i ddarparu i Mr X, cyn pen 20 diwrnod gwaith, Ymateb pellach i’r Gŵyn Cam 2 i ddelio â’r ail leoliad yr oedd Mr X wedi cwyno yn ei gylch a darparu ymddiheuriad ysgrifenedig am iddo fethu â rhoi sylw i’r elfen hon o’r gŵyn.

Roedd yr Ombwdsmon yn fodlon y byddai hyn yn darparu ateb i’r materion a oedd dan sylw yn y gŵyn hon.