Cwynodd Mr T am nad oedd Cymdeithas Tai Hafod wedi datrys ei gŵyn am waith drwsio yn ei gartref.
Dywedodd y Gymdeithas Dai ei bod yn aros i’r gwaith trwsio gael ei gwblhau cyn cyhoeddi ei ymateb i’r gŵyn. Dywedodd y Gymdeithas Dai fod y gwaith trwsio bellach wedi’i wneud i’r bibell dŵr glaw a’r gyli dŵr glaw. Nododd yr Ombwdsmon fod y Gymdeithas Dai wedi cymryd rhai camau, ond roedd o’r farn y byddai’n fuddiol pe bai Mr T yn cael ymateb ffurfiol i’w gŵyn. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb gynnal ymchwiliad.
Gofynnodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Gymdeithas Dai i ymddiheuro i Mr T, rhoi eglurhad am ei methiant i ymateb i’w gŵyn, ac i gyhoeddi ymateb i’w gŵyn o fewn 2 wythnos.