Cwynodd Mr X fod Cymdeithas Dai Hafod (“Hafod”) wedi methu â chynnal gwaith atgyweirio brys i ffenestri Mr X. Teimlai Mr X fod yr eiddo yn anniogel ac yn agored i’r tywydd garw. Mynegodd Mr X bryderon hefyd am ddiffyg ymateb i’w gŵyn.
Penderfynodd yr Ombwdsmon y dylai Hafod (o fewn 3 wythnos) roi ymddiheuriad ysgrifenedig i Mr X am beidio ag ymateb i’w gŵyn yn gynharach. Byddai hefyd yn ymweld â’r eiddo i weld bod y ffenestri yn ddiogel cyn eu newid fel rhan o’r gwaith cynnal a chadw a fwriadwyd yn 2022.
Ystyriodd yr Ombwdsmon fod hyn yn benderfyniad priodol i’r gŵyn yn hytrach na chynnal ymchwiliad.