Cwynodd Mr X ei fod ef a’i wraig, sydd ill dau ag anabledd difrifol, wedi cael eu gadael heb wres na dŵr poeth am sawl diwrnod gan fod boeler wedi torri.
Nododd yr Ombwdsmon fod y Gymdeithas wedi cael trafferth caffael rhan ar gyfer y boeler a’i bod wedi cynnig dull amgen o wresogi i Mr X ar y pryd. Penderfynodd y dylai’r Gymdeithas roi ymateb ysgrifenedig pellach i Mr X (o fewn 4 wythnos) a ddylai gynnwys ymddiheuriad mawr am yr anghyfleustra. Dylai hefyd gynnig taliad iawndal ariannol o £125.00 i Mr X am yr anhwylustod, yr amser a’r drafferth wrth fynd ar drywydd y mater hwn gyda’r Ombwdsmon.
Yn ogystal â’r uchod, dylai’r Gymdeithas hefyd gwblhau ei hadolygiad o’i threfn atgyweirio a chynnal a chadw. Dylid cwblhau hyn o fewn y 2 fis nesaf.
Roedd yr Ombwdsmon o’r farn fod hyn yn ffordd briodol o ddatrys y gŵyn yn hytrach na chynnal ymchwiliad.