Cwynodd Mr C fod Cymdeithas Tai Linc Cymru wedi gwrthod symud darllenydd mesurydd i’w gartref neu’n agos ato, o ystafell wedi’i chloi mewn lleoliad canolog. Roedd hyn yn golygu nad oedd yn hawdd i Mr C gael gafael ar ddarlleniadau ei fesurydd.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Gymdeithas wedi gwneud ystafell y mesurydd yn gwbl hygyrch i Mr C a’i denantiaid ond ni lwyddodd i egluro’r rhesymau dros ei phenderfyniad i beidio â symud darllenydd y mesurydd.
Gofynnodd yr Ombwdsmon am gytundeb y Gymdeithas i roi esboniad ysgrifenedig i Mr C o fewn un mis calendr.