Cwynodd Ms I nad oedd Cymdeithas Tai Linc Cymru wedi cymryd camau gweithredu rhagweithiol i ddatrys materion atgyweiriadau yn ei chartref, ac yn benodol dŵr yn gollwng.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i gŵyn ffurfiol a godwyd gan Ms I yn Ionawr 2023, a oedd wedi’i hanwybyddu.
Penderfynodd bod y proses gyfathrebu a’r ffordd yr aed i’r afael â’r gŵyn wedi bod yn wael, a oedd wedi achosi rhwystredigaeth bellach i Ms I.
Penderfynodd yr Ombwdsmon i setlo’r mater heb ymchwiliad a gofynnodd a chafodd gytundeb y Gymdeithas i ysgrifennu at Ms I o fewn tair wythnos i ymddiheuro iddi ac esbonio’r rhesymau dros yr oedi. Cytunwyd hefyd i esbonio’r camau a gymerir i ddatrys y materion a godwyd a chynnig taliad ariannol o £200 am yr amser a’r drafferth.