Cwynodd Miss L fod Cyngor Caerdydd wedi methu datrys problemau Ymddygiad Gwrthgymdeithasol. Cwynodd hefyd, er bod y Cyngor wedi cadarnhau mai tŷ gwydr cyfagos oedd prif achos lleithder yn ei heiddo, nid oedd wedi cymryd unrhyw gamau ers 2020.
Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad y bu oedi sylweddol cyn datrys pryderon Miss L, a bod y Cyngor wedi methu gweithredu ar ddulliau datrys a addawyd yr oedd wedi’u trafod yn flaenorol. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Mrs S.
Yn lle ymchwiliad, ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ymddiheuro i Miss L am beidio â gweithredu’r dulliau datrys a addawyd, i fynd draw i fynnu bod y tŷ gwydr yn cael ei symud a rhoi taliad o £150 am yr amser a’r drafferth oherwydd yr oedi a’r ffordd wael yr ymdriniwyd â’r gŵyn. Cytunodd y Cyngor y byddai’n gweithredu’r uchod o fewn 30 diwrnod gwaith.