Dyddiad yr Adroddiad

17/08/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Dinas Casnewydd

Pwnc

Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy'r tŷ. Ffenestri dwbl)

Cyfeirnod Achos

202202297

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwblhaodd Cyngor Dinas Casnewydd waith i atgyweirio twll sinc yn y ffordd y tu allan i gartref Mr D. Pan oedd concrit yn cael ei arllwys i’r twll methodd y staff â sylwi bod rhan o’r pibellau wedi codi a choncrit yn mynd i mewn i’r pibellau. Cwynodd Mr D fod y gwaith atgyweirio pellach, a oedd yn cynnwys cloddio ei dramwyfa, o safon wael. Roedd y rendrad y tu allan i’w eiddo hefyd wedi’i ddifrodi gan y gweithwyr ac roeddent wedi cwblhau atgyweiriad i ddarn bach yn unig a cwynodd Mr D ei fod hefyd o safon wael.

Mae’r Cyngor wedi gwneud cynnig ariannol i Mr D ar gyfer atgyweirio ei dramwyfa ac mae wedi cadarnhau ei fod yn hapus gyda’r trefniant. Mae tîm yswiriant y Cyngor ar hyn o bryd yn paratoi setliad gyda Mr D mewn perthynas â’r difrod damweiniol i rendrad ei eiddo. Os yw Mr D yn anhapus â chanlyniad y drafodaeth hon, gall ddwyn hawliad yn erbyn y Cyngor drwy lys barn.

O fewn 1 mis, mae’r Cyngor wedi cytuno y bydd yn:

a) Ysgrifennu at Mr D i ymddiheuro am yr anghyfleustra y gellid fod wedi’i eiosgoi a achoswyd iddo gan waith atgyweirio is na’r safon ar ei eiddo a’r difrod damweiniol i’w rendrad.

b) Talu iawndal ariannol o £750 i Mr D am yr anghyfleustra y gellid ei osgoi a achoswyd iddo ef a’i wraig oherwydd y gwaith atgyweirio gwael a’r trallod a achoswyd wrth geisio datrys ei bryderon.