Cwynodd Mr X fod tamprwydd yn ei eiddo a achoswyd gan yr eiddo drws nesaf sy’n eiddo i’r Gymdeithas. Cwynodd hefyd nad oedd wedi cael ymateb i’w gŵyn.
Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus nad oedd Mr X wedi cael ymateb ffurfiol i’w gŵyn a bod gweithredoedd y Gymdeithas wedi peri anhwylustod iddo. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Gymdeithas i gyflawni’r camau canlynol o fewn pythefnos:
• Rhoi ymateb ffurfiol i gŵyn Mr X
• Rhoi esboniad i Mr X am yr oedi cyn darparu ymateb ffurfiol
• Ymddiheuro i Mr X am yr oedi