Cyflwynodd Ms X gŵyn ar ran Mr Y am ddiffyg ymateb i’w gŵyn a gyflwynwyd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Cwynodd Ms X hefyd fod y Bwrdd Iechyd wedi dweud y byddai’n cwrdd â Mr Y i adolygu anghenion gofal ei ferch, a chynnal asesiad gofalwyr, ond ni ddigwyddodd hyn.
Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad fod y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i gŵyn Mr Y, ond nid oedd wedi’i dderbyn. Daeth i’r casgliad hefyd nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi cysylltu â Mr Y, yn ôl yr addewid, i drefnu cyfarfod.
Ceisiodd a sicrhaodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i roi copi i Mr Y a Ms X o’i ymateb i’r gŵyn ysgrifenedig o fewn 5 diwrnod gwaith. Ymhellach i hyn, cytunodd y Bwrdd Iechyd i drefnu cyfarfod gyda Mr Y a Ms X i drafod anghenion gofal ei ferch, a chadarnhau trefniadau ar gyfer asesiad gofalwyr o fewn 10 diwrnod gwaith.