Cwynodd Mr A am orfodaeth gynllunio ar gyfer safle lleol. Wrth ymateb i gŵyn Mr A, dywedodd y Cyngor y byddai’n rhoi diweddariad iddo, ond dywedodd Mr A nad oedd wedi gwneud hynny.
Roedd yr Ombwdsmon o’r farn nad oedd y Cyngor wedi rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Mr A am ei asesiad o’r safle. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd, a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ddarparu diweddariad, gan gynnwys y sefyllfa bresennol gyda’r asesiad o’r safle, o fewn 3 wythnos.