Cwynodd Mr a Mrs X am amrywiol faterion yn ymwneud â lôn fynediad a rennir a safle ysgol wrth ymyl eu cartref, gan gynnwys materion cynnal a chadw a honiadau o dorri amodau cynllunio. Canfu’r Ombwdsmon fod llawer o’r materion a godwyd yn ymwneud â materion oedd wedi digwydd rhwng 3 ac 8 mlynedd cyn cyflwyno’r gŵyn iddo ac felly gwrthododd ystyried y rhain. Fodd bynnag, roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod nifer o faterion mwy diweddar a fyddai’n elwa o gael ymateb ysgrifenedig ffurfiol gan y Cyngor.
Felly, cytunodd y Cyngor i gadarnhau â Mr a Mrs X y materion, o fis Mai 2020 ymlaen, a oedd, yn eu barn nhw, yn dal heb eu datrys ac i ddarparu, o fewn 20 diwrnod gwaith i gytuno ar y penawdau cwynion, ymateb ysgrifenedig ffurfiol o dan Gam 2 ei weithdrefn Cwynion Corfforaethol. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod hyn yn ddatrysiad priodol ac felly nid oedd wedi ymchwilio i’r gŵyn.