Dyddiad yr Adroddiad

27/03/2024

Achos yn Erbyn

Cyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr

Pwnc

Datgelu a chofrestru buddiannau

Cyfeirnod Achos

202204885

Canlyniad

Cyfeiriwyd at Bwyllgor Safonau

Derbyniodd yr Ombwdsmon gŵyn bod Aelod (“yr Aelod”) o Gyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr (“y Cyngor”) wedi torri’r Cod Ymddygiad.

Honnwyd bod yr Aelod wedi: methu â datgan buddiant personol a buddiant sy’n rhagfarnu mewn cyfarfod o’r Cyngor; wedi cymryd rhan mewn trafodaeth yng nghyfarfod y Cyngor pan na ddylai fod wedi gwneud o ystyried ei fuddiannau; a’i fod, am iddo gymryd rhan yn y drafodaeth, wedi ceisio dylanwadu ar benderfyniad ar y mater a drafodwyd i geisio mantais i’w wraig.

Canfuom y goEin canfyddiad, o dan adran 69 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, oedd bod ein hadroddiad ar ein hymchwiliad yn cael ei gyfeirio at Swyddog Monitro Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i’w ystyried gan ei Bwyllgor Safonau.

Canfu’r Pwyllgor Safonau fod yr Aelod wedi methu â chydymffurfio â’r Cod Ymddygiad. Ei sancsiwn oedd atal yr Aelod o’r Awdurdod Perthnasol, fel y nodir yn Neddf Llywodraeth Leol 2000, am 6 mis.

Mae penderfyniad y Pwyllgor Safonau ar gael yma. Mae’r penderfyniad hwn yn destun apêl.