Dyddiad yr Adroddiad

04/10/2024

Achos yn Erbyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Pwnc

Diogelu

Cyfeirnod Achos

202310335

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X am weithredoedd gweithiwr cymdeithasol o Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Cwynodd hefyd am y ffordd yr oedd y Cyngor wedi ymdrin â’i gŵyn.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Cyngor wedi uwchgyfeirio cwyn Mr X yn briodol i Gam 2 o’i Weithdrefn Gwyno Gwasanaethau Cymdeithasol. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Mr X.

Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ysgrifennu at Mr X o fewn pythefnos i ymddiheuro am fethu ag uwchgyfeirio’i gŵyn yn briodol ac i gadarnhau bod ei gŵyn wedi cael ei huwchgyfeirio i Gam 2 ac y bydd ymchwilydd annibynnol yn cael ei benodi.