Cwynodd Miss A am y ffordd yr oedd Cyngor Sir Gâr (“y Cyngor”) wedi delio â phryderon diogelu yr adroddodd am ei merch.
Dywedodd Miss A fod y Cyngor wedi methu â rhannu adroddiad â hi o fis Mai 2024. Cadarnhaodd yr Ymchwiliad Annibynnol i’w phryderon yr agwedd hon ar ei chŵyn.
Fe wnaeth yr Ombwdsmon gydnabod nad oedd y Cyngor wedi rhannu’r adroddiad hwn â hi o hyd, er bod y gŵyn wedi cael ei chadarnhau.
Ceisiodd, a chafodd, yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor y byddai’n cynnig ymddiheuriad i Miss A o fewn 4 wythnos, ac yn anfon copi o’r adroddiad ati.